Episodes
-
Ian Keith, sydd newydd ymddeol fel Prifathro yw gwestai Beti George.
Fe adawodd y byd addysg llynedd ar Ă´l bod yn Bennaeth ysgol San SiĂ´r, Llandudno. Fe enillodd sawl gwobr, gan gynnwys Pennaeth y Flwyddyn gyda'r Daily Express a'r Daily Post; gwobr David Bellamy am ysgol oedd yn gwneud gymaint gyda byd natur; a gwobr werdd y World Wildlife Fund.
Roedden nhw'n cadw ieir a gwenyn ac yn gwerthu'r cynnyrch yn y siopau lleol. Mae'n trafod heriau byd addysg, ac yn rhannu hanesion ei blentyndod. Mae'n hoff iawn o gasglu planhigion ac yn teithio pellteroedd i weld adar a gwyfynod prin.
-
Iona Roberts, neu Iona Pen Ffridd i bawb syân ei hadnabod yw gwestai Beti a'i Phobol.
Mae Iona yn ffarmwraig ac yn gadwraethwr, mae'n hyfforddwr yoga, yn gyn warden gydaâr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn fam i 3 o blant (Nel, Nedw a Joe) a gwraig i John. Mae hi hefyd yn rhedeg rasys Iorn Man.
Ganwyd ar fferm Pen Ffridd, Penmachno (pentref ger Betws y Coed, yn Sir Conwy). Cafodd ei magu gyda'i Nain a'i Thaid a 3 ewythr oedd yn adnabyddus yn yr ardal sef Ifor, Elw a Hyw.
"Tyfais fyny yma ym Mhen Ffridd, gyda digon o ryddid ac awyr iach, erbyn hyn dwi'n deall pa mor unigryw oedd fy magwraeth erbyn hyn!"Bu'n gweithio yn Llundain am gyfnod gyda chwmni Saatchi and Saatchi ac yn Wimbledon ble daeth ar draws Pat Cash. Ond dychwelyd i ffermio gwnaeth hi i Pen Ffridd, ac mae'n angerddol am amaethu mewn dull cynaliadwy.
Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae'n dewis caneuon sydd yn ffefrynnau gan gynnwys Meic Stevens â GwenllĂŻan. Dymaâr gân oedd yn chwarae pan gerddodd Iona mewn iâr gwasanaeth priodas.
-
Episodes manquant?
-
Y canwr gwlad Andrew Walton o Gwmfelin Mynach yw gwestai Beti a'i Phobol. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel y Welsh Whisperer, ac mae'n dathlu 10 mlynedd eleni ers dechrau perfformio. Mi fydd y caneuon 'Ni'n Beilo Nawr' a 'Bois y JCB' yn gyfarwydd i'w ffans.
Cafodd ei fagu yng Nghwmfelin Mynach yn Sir Gaerfyrddin. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, Gwynedd.
Graddiodd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Sheffield , a bu'n athro ysgol gynradd yn y gogledd am sawl blwyddyn, cyn mentro o ddifri i'r byd perfformio.
Mae'r Welsh Whisperer bellach yn wyneb cyfarwydd ar y teledu, yn perfformio canu gwlad mewn gwyliau cerddorol ac yn denu niferoedd i neuaddau pentref ar hyd y wlad.
Mae'n cyflwyno cyfres o bodlediadau newydd ' Y Byd yn Grwn' sy'n rhoi cipolwg y tu Ă´l i'r llenni ar glybiau pĂŞl-droed llawr gwlad a'r gwirfoddolwyr allweddol sy'n eu rhedeg.
Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis caneuon Gwyddelig ac un gan ei arwr Tecwyn Ifan.
-
Mandy Watkins, cynllunydd cartref a chyflwynwraig ar gyfres S4C Dan Do, Hen Dš Newydd a 'BBC Walesâ Home of the Year' yw gwestai Beti George.
Cafodd ei magu yn y Fali, ar Ynys MĂ´n mewn tš oâr enw Graceland, a hynny gan fod ei rhieni yn hoff iawn o'r canwr Elvis, ac mae ganddi atgofion hapus iawn o blentyndod yn gwylio ffilmiau Elvis ar y teledu gyda'i theulu.
Doedd bod yn gynllunydd cartrefi ddim yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, fe raddiodd mewn cymdeithaseg a busnes ym Mhrifysgol Bangor. Bu'n gweithio gyda chwmni gwerthu gwyliau yng Nghaer a hefyd i gynllunydd cartrefi. Bu'n gweithio gyda Cyngor Cefn Gwlad Cymru am 10 mlynedd ac fe gafodd gyfnod yn labro i'w thad, cyn adnewyddu cartref iddi hi a'i theulu. Mae wedi sefydlu busnes ei hun a'r Ynys MĂ´n, Space Like This.
Mae'n trafod cael ei bwlio yn yr ysgol, pwysigrwydd cwnsela a'i chyfnod yn dioddef o bulimia.
Mae hi'n Fam i 3, ac yn rhannu straeon ei bywyd prysur ac yn dewis 4 can yn cynnwys un gan Amy Winehouse, Elvis a Bryn Fon.
-
Beti George sydd yn holi Iwan Steffan, cyflwynydd a dylanwadawr ar wefannau cymdeithasol, er nad ydi Iwan yn rhy hoff o'r term dylanwadwr. Yn wreiddiol o bentref Rhiwlas, tu allan i Fangor, ond mae bellach yn byw yn Lerpwl, ac yn cael ei adnabod gan bobol y ddinas oherwydd ei bresenoldeb ar Tik Tok, sydd yn ei gyflogi fel llysgennad swyddogol, mae dros 52 o filiynau o bobol wedi gweld ei fideos am ysbrydion Lerpwl.
Mae'n rhan o deulu creadigol - y cerddor Steve Eaves yw ei Dad ac mae Iwan yn frawd bach i Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros.
Mae'n trafod hanesion ei fywyd, yn credu bod gormod o bwysau ar blant i lwyddo yn yr ysgol mewn arholiadau, " Ges i TGAU Cymraeg ac Addysg Grefyddol. Tyda ni gyd ddim yn dysgu fel âna â dylsa ni ddysgu am brynu tai, pres, colled, iechyd meddwlâ.
Tydi'r ffordd ddim wedi bod heb ei heriau, rhai yn boenus iawn, ond mae Iwan yn hapus erbyn hyn ei fod yn gweithio tipyn yng Nghymru hefyd yn cyflwyno rhaglenni i S4C. â dwiân dathlu fy hun rĹľan â dwi wedi treulio gymaint oâm mywyd yn anhapusâ
-
Roedd Dr Llinos Roberts yn feddyg teulu yn y Tymbl am flynyddoedd, cyn gorfod orfod cau yn 2024 oherwydd problemau recriwtio.
Mae'n trafod sefyllfa'r NHS, yn sĂ´n nad oes angen A* yn y lefel A i fod yn feddyg da. Mae sgiliau empathi a chyfathrebu yn holl bwysig, tydi rhain ddim yn cael eu mesur, ac mae angen meddygon o bob math o gefndir cymdeithasol. Maeâr iaith Gymraeg hefyd yn ganolog i gynnal y gofal iechyd gorau.
Mae Llinos yn cyflwyno eitemau meddygol ar Prynhawn Da ar S4C, ac yn mwynhau'n fawr. Mae hefyd yn sgwennu erthyglau meddygol i gylchgrawn Y Wawr ers rhyw 10 mlynedd.
-
Kathy Gittins, artist a gwraig fusnes yw gwestai Beti George.Cawn hanesion difyr ei magwraeth ar fferm fynydd Penrhos, uwchben Pontrobert a Meifod yn Sir Drefaldwyn.Roedd y capel mor bwysig i fagwraeth Kathy, i Gapel Gad yr oedd hiân mynd bob dydd Sul gydaâi theulu. Y capel drws nesa, rhyw filltir i fynyâr lon oedd Capel Penllys, sef lle sefydlwyd Aelwyd Penllys gan y diweddar Parch Elfed Lewis, ac mae hi'n hel atgofion am yr eisteddfodau rhwng y ddau gapel a mynd i'r aelwyd.Fe astudiodd gwrs celf yn Leeds, cwrs cynllunio graffeg ac wedyn agor oriel ym Meifod a hynny yn ystod cyfnod anodd iawn iddi yn ei bywyd.Fe ddatblygodd yr Oriel yn siop ddillad, a bu'n rhedeg 3 siop Kathy Gittins ym Mhwllheli, Trallwng a'r Bont-faen, ond bu cyfnod covid yn heriol a Brexit. Fe benderfynodd gau'r busnesau llynedd.Mae hi'n Fam i 4, ac yn Nain i 12eg o wyrion ac wyresau.
-
Beti George sydd yn sgwrsio gyda Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hšn Cymru.
Yn wreiddiol o Aberpennar ger Aberdâr, dechreuodd Rhian ei gyrfa fel swyddog heddlu, bu gyda nhw am 7 mlynedd ond y 3 mlynedd ola yn gweithio gyda aml asiantaeth efo trais yn y cartref. Penodwyd hiân Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd iâr afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015.
Cyn iddi ymgymryd ââi swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig syân ymwneud â phobl hšn.
-
Dr Eurfyl ap Gwilym yr economegydd yw gwestai Beti George. Daeth un digwyddiad yn 2010 ag ef i sylw mawr pan fentrodd herio Jeremy Paxman, un o'r newyddiadurwyr uchaf ei barch ym Mhrydain. Drannoeth 'roedd y gwefannau ar dân. Mi ddaru Eurfyl elwa oâr ffaith fod o ddim yn cyfaddeâ ei fod oân anghywir ac mi ddaliodd arno.Mae o di cael pobol yn dod ato yn ei adnabod oâr teledu - yng Nghaerdydd a Llundain ⌠âYouâre the Paxman man! Well Doneâ.
Dechreuodd ei yrfa gyda chwmni Unilever ar gynllun datblygu rheolwyr busnes. Bu'n gweithio gyda chwmni John Williams yn rheoli pob agwedd o'r busnes. Buân Bennaeth adran gwerthu cyfrifiaduron gyda chwmni mawr electroneg Philips, cwmni rhyngwladol â oâr Iseldiroedd. Buân gweithio gyda GE. Buân brif weithredwr i gwmni meddalwedd rhyngwladol yn Llundain ( Cwmni o UDA ydoedd). Gwerthu a datblygu meddalwedd i fanciau.
Buân gweithio gyda'r Principality yn ddirprwy gadeirydd ac yn gyfarwyddwr anweithredol byrddau technolegol, a buân gweithio gyda Phlaid Cymru. Bu'n helpu Gwynfor Evans yn ystod cyfnod 1966- '67. " Doedd dim llawer o adnoddau pan aeth Gwynfor mewn i'r Senedd yn '66, 'roeddem ni'n gosod cwestiynau Seneddol, doedd dim google, a dim modd cael llawer o wybodaeth, felly roedden ni'n codi llawer iawn o gwestiynau".
Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân gan gynnwys Dafydd Iwan a Karl Jenkins.
-
Mae Mark Williams yn gyn-nofiwr Paralympaidd, fe yw sylfaenydd LIMB-art - cwmni sy'n cynhyrchu cloriau unigryw a hwyliog ar gyfer coesau prosthetig .
Newidiodd bywyd Mark Williams oâr Rhyl un diwrnod ym Mehefin 1982 pan gollodd ei goes chwith mewn damwain ffordd wrth seiclo adref oâr ysgol. Roedd Mark yn 10 mlwydd oed.
Maeâr ddamwain wedi siapio ei fywyd aâi yrfa mewn nifer o ffyrdd ac wedi arwain Mark i sefydlu cwmni yn 2018 o'r enw LIMB-art sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig.
Mae ei waith wedi cael ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024 gydaâr cwmni yn ennill un o Wobrauâr Brenin am ei fenter.
Mae wedi ennill nifer o wobrau am ddyfeisio pethau a hefyd 30 mlynedd nol fe enillodd fedal aur, arian ac efydd ym Mhencampwriaethau'r byd i'r anabl fel nofiwr Paralympaidd. Mae ei stori yn anhygoel!
-
"Mae bywyd yn rhy fyr" meddai Teleri Wyn Davies mewn cyfweliad arbennig gyda Beti George. "Mae beth sydd wedi digwydd i Dad wedi siapio fi, ac wedi neud i fi edrych ar fywyd mewn ffordd wahanol".
Mae Teleri yn un o gyn-chwaraewyr tĂŽm rygbi Cymru, ac wedi derbyn gwahoddiad i gael chwarae a hyfforddiâr gamp yn Tsieina. Mae hi'n byw yn ninas Shenzen sydd wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Tsieina, dinas gyda phoblogaeth o 17.5 miliwn syân cysylltu Hong Kong â'r tir mawr.
Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael sĂŞl bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar Ă´l cael ei barlysu wrth chwarae ei gĂŞm olaf i Glwb Rygbi'r Bala. Naw oed oedd Teleri ar y pryd, ac mae hi'n cofio'r diwrnod yn glir, ac yn trafod dylanwad ei thad a'i mam.
Mae hi'n trafod rygbi merched ac yn rhannu straeon ei bywyd yn ogystal â dewis caneuon sydd wedi dylanwadu arni, gan gynnwys cân Mynediad am Ddim - Cofio dy Wyneb. Hon oedd y gân ar gyfer angladd Dad. "Mae jyst yn gân mor neis a mor agos i nghalon i. Mi ddaruâr hogiau rygbi ddod at ei gilydd a chanu hon".
-
Yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, yw gwestai Beti George.
Magwyd yn y tš lle ganwyd ei Fam aâi Nain yn Manod, Blaenau Ffestiniog. Cawn hanesion difyr ei fagwraeth yn ogystal â'i hanes yn denig o Blaenau ar drĂŞn gyda'i ffrind ysgol am "fywyd gwell" yn Llundain a hynny yn ei arddegau.
Wedi gadael ysgol, fe aeth iâr coleg celf ym Manceinion, cyfnod y mods aâr rocers aâr gerddoriaeth soul. O fewn dim amser, mi roedd y teimlad o gaethiwed yn Ă´l, rhyw deimlad fod o yn y carchar eto (fel roedd yn teimlo adre efo Dad) . Daeth y rebel allan ynddo ac wedyn daeth y dylanwadau oâr tu allan iâr coleg.
Gadawodd y coleg a dod 'nĂ´l i weithio yn y chwarel yn Blaenau. Dylanwadodd y naturiaethwr Ted Breeze arno, a bu'n gwerthu lluniau i'r cylchgrawn Country Life.
Mae bellach yn gwerthu ei waith mewn orielau celf yn Llundain ac yng Nghymru.
-
Georgia Ruth, y gantores a'r gyflwynwraig yw gwestai Beti George.
Mae wedi rhyddhau 4 albwm, ac yn ystod y cyfnod clo, mi ddechreuodd sgwennu ychydig bob dydd. Mi ddaru hunan gyhoeddi ei nofel gyntaf âTell Me Who I amâ. Cafodd gynnig wedyn i sgwennu yn Gymraeg â Casglu Llwch, sef casgliad o fyfyrdodau ganddi.
Roedd llynedd yn dipyn o flwyddyn rhwng popeth! Roedd ganddi albwm allan mis Mehefin. Roedd hi'n cyhoeddi llyfr Saesneg yr un cyfnod ac yn cyhoeddi llyfr Cymraeg mis Tachwedd. A dros yr haf â ar lwyfan Sesiwn Fawr yn Nolgellau - fe aeth Iwan ei gwr yn sâl, roedd bron a gorffen ei set (efo Cowbois) pan gafodd strĂ´c ar y llwyfan. Mae Georgia yn trafod y cyfnod yma, a sut y gwnaeth hi ac Iwan ymdopi.
Mae hi'n fam i 3 bellach, recordiwyd y sgwrs cyn genedigaeth Alma Gwen.
-
Mae Lowri yn gweithio gyda GwyrddNi, mudiad gweithredu ar newid hinsawdd yn Dyffryn Peris, sy'n rhoi'r gymuned wrth galon y cynllun. "Dwi'n actifydd, yn amgylcheddwr, yn drwsiwr ac yn ail-bwrpaswr. Mae prynwriaeth a siopau tsiaen yn fy ngwylltio a fyddaâi ddim yn hedfan, o ran egwyddor."
Yn Fardd, yn Wrach Fodern ac yn aelod o Urdd Derwyddon MĂ´n, yn fam i 3 o fechgyn ac yn Nain i un.
Mae hi'n wyres i'r enwog fardd o FĂ´n, Machraeth ac fe dreuliodd Lowri flynyddoedd yn ei gwmni " roedd Taid yn siarad mewn cynghanedd" meddai ac yn ddylanwad mawr. " Mae sain y gerdd dafod yn rhan ohona'i".
Mae hi yn byw bywyd prysur a diddorol, ac yn credu yn yr ysbrydol " da ni'n fwy na chorff a gwaed".
Mae hi'n dewis 4 can, yn cynnwys can Lleuwen â Bendigeidfran ddaeth allan ar Ă´l canlyniad Brexit. âMae angen pontydd rhyfeddolâ. Mae Lowri yn teimlo reit gryf am hyn. Mae hiân teimlo ei bod yn reit aml yn pontio rhwng gwahanol garfannau o gymdeithas. Mae hefyd yn dewis artist o'r Iwerddon sy'n canu caneuon gwleidyddol, Lisa O'Neill âgan ddewis y gan If I Was a Painter.
-
Glenda Jones-Williams Is lywydd pobol a diwylliant Gogledd Ewrop ac Asia aâr MĂ´r Tawel gyda Coca Cola yw gwestai Beti George.
Yn wreiddiol o Frynaman fe gafodd gyfnod yn gweithio ym myd y gyfraith ac wedyn cwympo mewn iâr byd corfforaethol ac i fyd adnoddau dynol (Human Resources neu Personnel gynt neu People and Culture fel maen nhw'n cael eu hadnabod yn Coca Cola). Mae wedi gweithio gyda Coca Cola ers tua 18 mlynedd bellach.
Tydi methu credu fod merch syân siarad Cymraeg ac yn dod o Frynaman mewn swydd uchel yn y byd corfforaethol. Y cynllun oedd bod yn gyfreithwraig am byth.
Fe gafodd ei 'head huntio' i'r swydd, ac fe gynigiwyd swydd ryngwladol iddi ond wedi ei leoli yn Llundain, ond mi roedd ei mab, Harri newydd ei eni ac roedd hi am iddo gael magwraeth Gymraeg a doedd hi ddim isio symud i Lundain, felly mi ddaru berswadio ei phennaeth yn Atlanta fod posib neud y swydd yn unrhyw le!
Maeân trafaelioâr byd efoâi gwaith â Awstralia, Ewrop i gyd, Phillipines, Jakarta, Bali, India ac America.
-
Daf James, y dramodydd, cerddor, cyfansoddwr, perfformiwr ac awdur yw gwestai Beti George.Fe gafodd lwyddiant ysgubol diweddar gyda'i gyfres deledu Lost Boys and Fairies, ac mae'n trafod yr heriau sydd yn dod yn sgil ysgrifennu.Mae yn rhannu ei brofiad o fabwysiadu dau fachgen a merch fach gyda'i Ĺľr, Hywel, ac yn trafod sut mae hynny wedi newid eu byd. Fe ddaeth yn rhiant yn fuan ar Ă´l colli ei Fam, ac mae'n trafod effaith galar gyda Beti.
Ei gyngor i ysgrifenwyr ifanc yw âY mwyaf authentic ych chi â maeâr stori yn mynd yn bellach, gonestrwydd mae cynulleidfa eisiau.â
Mae'n hoff iawn o'r grĹľp Eden a Caryl Parry Jones, ac yn credu eu bod yn gwneud gwaith ffantastig yn gymdeithasol o ran iechyd meddwl, a'u bod wedi esblygu gydag amser, rhaid gwneud os tiân artist.
-
Heledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes.
Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i merch Alys Mair 'Camu Mlaen' ar gyfer ei mab tra âroedd eân mynd trwy gyfnod anodd.
-
Dymaâr ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gydaâr cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon aâi garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.
-
Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.
Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, MĂ´n ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon.Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar Ă´l i ÂŁ48,000 fynd ar goll oâi gyfrifon.Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.
-
Yr actores Lisabeth Miles syân actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr iâr opera sebon eleni wrth iddi ddathluâr 50! Maeân wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn iâr Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efoâr Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghšd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Buân gweithioân gyson mewn cynhyrchiadau iâr BBC hefyd, gan gynnwys âEstherâ, âY Stafell Ddirgelâ, âLleifiorâ a âBranwenâ yn ystod diwedd y 1960au a dechrauâr 70au.
- Montre plus