Episodit
-
Physical development - encouraging children to develop their motor skills, coordination and balance - is an important part of the Curriculum for Wales.
Wendy Davies, the leader of Ffrindiau Bach Tegryn in Aberporth, discusses the importance of keeping the children moving but also being creative with how they move, in order to develop muscles and motor-skills. We learn how taking children out to explore their local area helps to cover multiple developmental pathways at once. -
Mae datblygiad corfforol - annog plant i ddatblygu eu sgiliau echddygol, cydsymud a chydbwysedd - yn rhan bwysig o Gwricwlwm Cymru.
Mae Wendy Davies, arweinydd Ffrindiau Bach Tegryn yn Aberporth yn trafod pwysigrwydd cadw’r plant i symud ond hefyd bod yn greadigol ynghylch sut maen nhw’n symud, er mwyn datblygu cyhyrau a sgiliau echddygol. Clywn ni sut mae mynd â phlant allan i archwilio eu hardal leol yn helpu i gwmpasu llwybrau datblygu lluosog ar yr un pryd. -
Puuttuva jakso?
-
Belonging is a sense of happiness and feeling accepted in the environment you’re in. It is important to children’s development and is another developmental pathway in the Curriculum for Wales.
Hannah Rowley, a deputy leader from Cylch Meithrin Nant Dyrys in Treorchy, introduces us to belonging in a playgroup setting. We’ll hear how local trips to hairdressers, charity shops and into the wider community are some of the ways Hannah and team use to create a sense of belonging for children. -
Mae perthyn yn deimlad o hapusrwydd a theimlad eich bod yn cael eich derbyn yn eich cynefin. Mae'n bwysig i ddatblygiad plant ac mae'n llwybr datblygiadol arall yng Nghwricwlwm Cymru.
Mae Hannah Rowley, dirprwy arweinydd Cylch Meithrin Nant Dyrys yn Nhreorci, yn ein cyflwyno i berthyn o fewn y Cylch Meithrin. Cawn glywed sut mae teithiau lleol i siopau trin gwallt, siopau elusen ac i’r gymuned ehangach yn rhai o’r ffyrdd y mae Hannah a’r tîm yn eu defnyddio i greu ymdeimlad o berthyn i blant. -
Children’s curiosity about the world around them helps to shape their development. The exploration step of the Curriculum for Wales focuses on this developmental pathway.
Jaqueline Hooban, a Cylch Meithrin leader in Llanbedr, discusses exploration and how it differs in each Cylch. We’ll hear how techniques like role-play, using sandpits and even going out into the community help children to learn at their own pace. -
Mae chwilfrydedd plant am y byd o'u cwmpas yn helpu i lunio eu datblygiad. Mae cam archwilio Cwricwlwm Cymru yn canolbwyntio ar y llwybr datblygiadol hwn.
Jaqueline Hooban, arweinydd Cylch Meithrin Llanbedr, sy'n trafod archwilio a sut mae'n wahanol ym mhob Cylch. Byddwn ni'n clywed sut mae technegau fel chwarae rôl, defnyddio pyllau tywod a hyd yn oed mynd allan i'r gymuned yn helpu plant i ddysgu ar eu cyflymdra eu hunain. -
What does effective communication look like in a playgroup setting?
Kayleigh Bickford, current Cylch Meithrin leader from Beddau and one of the authors of the Curriculum for Wales, explains what effective communication is and the importance of establishing this with both children and parents. -
Sut olwg sydd ar gyfathrebu effeithiol mewn lleoliad Cylch Meithrin?
Mae Kayleigh Bickford, arweinydd presennol Cylch Meithrin Beddau ac un o awduron y Cwricwlwm i Gymru, yn egluro beth yw cyfathrebu effeithiol a phwysigrwydd sefydlu hyn gyda phlant a rhieni. -
Children are influenced by adults, their environments and experiences, so a focus on well-being and how it affects them is an important part of the Curriculum for Wales.
Based in Wrexham, Charlotte Thrussell talks us through how they create a strong sense of well-being at their Cylch Meithrin; from open evenings before the children attend the nursery, to encouraging independence through snack time and playtime. -
Mae plant yn cael eu dylanwadu gan oedolion, eu hamgylchedd a'u profiadau, felly mae canolbwyntio ar les a sut mae'n effeithio arnyn nhw yn rhan bwysig o Gwricwlwm Cymru.
Wedi’i lleoli yn Wrecsam, mae Charlotte Thrussell yn siarad â ni am sut maen nhw’n creu ymdeimlad cryf o les yn eu Cylch Meithrin; o nosweithiau agored cyn i'r plant fynychu'r feithrinfa, i annog annibyniaeth trwy amser byrbryd ac amser chwarae. -
The Curriculum for Wales has been introduced to primary and secondary schools across the country, but what does it mean for early years and nursery groups?
Vanessa Powell is leading on the Curriculum for Wales for Mudiad Meithrin. In this episode, she takes us through its five development pathways - well-being, communication, exploration, belonging and physical development - before we delve into more detail in subsequent episodes. -
Mae Cwricwlwm i Gymru wedi’i gyflwyno i ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws y wlad, ond beth mae’n ei olygu i Gylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd?
Mae Vanessa Powell yn arwain ar y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer Mudiad Meithrin. Yn y bennod hon, mae hi'n ein tywys trwy'r phum llwybr datblygu - lles, cyfathrebu, archwilio, perthyn a datblygiad corfforol - cyn i ni ymchwilio'n fwy manwl mewn penodau dilynol. -
What books should I get my children to read? How can I help with homework? And can my child lose their Welsh? As a finale to Series 2, our resident expert, Dr Enlli Thomas of Bangor University answers your questions about Welsh medium education.
Pa lyfrau ddylai fy mhlant ddarllen? Sut fedrai helpu efo'r gwaith cartref? All fy mhlentyn golli'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg? Fel diweddglo i Cyfres 2, mae ein arbenigwr iaith Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor yn ateb eich cwestiynnau chi am addysg Gymraeg. -
Nia is joined by two mums who were born in England and who have recently moved to Wales with their families. Sarah Coltman from Essex made to the move to her husband's beloved home city, Swansea. Fran Rumbelow was learning Welsh online before moving from Nottinghamshire to Pembrokeshire. Bravely, both Sarah and Fran have chosen to send their children to Welsh-medium nurseries and schools for their children. We hear about the worries and insecurities they faced and how they feel about the decision now. Listening along to the conversation is Dr Enlli Thomas of Bangor University who gives us her perspectives on the themes that emerge.
Dwy Fam o Loegr yw gwestai Nia yr wythnos hon, y ddwy newydd symud i Gymru gyda'i teuluoedd. Un o Essex yw Sarah Coltman, sydd bellach wedi ymgartrefu yn Abertawe, dinas enedigol ei gwr. Un o Nottingham yw Fran Rumbelow, dechreuodd ddysgu Cymraeg gyda'r plant ar-lein, cyn symud i Sir Benfro. Mae'r ddwy wedi dewis anfon y plant i'r cylchoedd meithrin lleol a'r ysgolion Cymraeg. Cawn glywed am yr hyn oedd yn poeni'r ddwy a'i pryderon cyn dechrau'r daith i addysg Gymraeg, a pam bod y ddau deulu a'r pant mor hapus ei bod wedi mynd amdani. Yn gwrando gyda Nia, mae Dr Enlli Thomas o Brifsygol Bangor, ein arbenigwr iaith sy'n ymateb i brofiadau'r ddau deulu. -
Father and son Wayne and Connagh Howard are Nia's guests on this episode. Wayne talks about the conversation with his friend that led to him and his wife sending Connagh and his sister to Cylch Meithrin - and which, for Wayne, started a 28-year love affair with the Welsh language. Connagh, a 2020 Love Island contestant, talks about why he felt it was important that he used his Welsh on primetime TV to help raise its profile. Listening along to the interview is Dr Enlli Thomas of Bangor University, who gives her professional insight into the benefits of language learning and the mysteries of "code-switching".
Y Tad a'r mab Wayne a Connagh Howard yw gwestai Nia ar y bennod hon. Cawn glywed sut waneth sgwrs gyda ffrind ysbrydoli Wayne a'i wraig i anfon y plant i'r Cylch Meithrin - a sut, i Wayne, roedd hyn yn ddechrau siwrne gariad 28 mlynedd gyda'r iaith Gymraeg. Yn un o gystadleuwyr 'Love Island' yn 2020, mae Connagh yn esbonio pam ei fod mor angerddol am y Gymraeg a sut roedd yn benderfynnol o ddefnyddio'i broffil ar y rhaglen i hybu a hyrwyddo'r iaith. Yn gwrando gyda Nia, mae Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor, sy'n rhannu ei gwybodaeth broffesiynnol am y buddion o ddysgu iaith a'r rhyfeddodau o amgylch "code - switching". -
Academic and former Wales international footballer Laura McAllister and her partner, radio producer Llinos Jones talk about their differing relationships with the Welsh language growing up. With their daughters Annie and Bella going to the Cylch Meithrin from the age of 2, Laura talks about the responsibility she feels to help protect and preserve the language for future generations. Plus, host Nia Parry listens back to the interview with our resident language expert, Dr Enlli Thomas of Bangor University who gives her expert view on the subjects discussed. If you have a question about Welsh language education or if you'd like to share your own experience with Nia and Enlli later in the series, email us on [email protected].
Yr Academydd a chyn chwaraewr pel droed rhyngwladol Laura McAllster a'i phartner, y cynhyrchydd radio Llinos Jones, sy'n sgwrsio am eu perthynas gwahanol gyda'r iaith Gymraeg wrth dyfu fyny. Cawn glywed sut mae ei merched Anni a Bella yn mynychu'r Cylch Meithrin ers yn 2 oed, a sut mae Laura'n teimlo'r cyfrifoldeb i warchod a chadw'r iaith yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd ein cyflwynydd Nia Parry yn gwrando nol ar y sgwrs gyda'n arbenigwr iaith Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor, wrth iddi hi ymateb i'r hyn sy'n cael ei drafod. Os oes ganddoch chi gwestiwn am addysg Gymraeg neu os hoffech rannu eich profiad chi gyda Nia ac Enlli yn ddiweddarach yn y gyfres, ebostiwch ni ar [email protected] -
TV newsreader & presenter Lucy Owen launches series 2 of Baby Steps Into Welsh! In a lively and honest conversation with our presenter Nia Parry, Lucy talks about the decision to send her son Gabs to Cylch and into Welsh-medium education, despite many failed attempts to learn the language herself. We learn how an interview with a neuroscientist helped her make up her mind to send Gabs to a Welsh secondary school and how Gab's was so determined to continue in Welsh language education, despite the fact it meant getting up extra early to catch the bus! Lucy shares how she sees the Welsh language as a gift for children and how she wishes she'd been brought up today, where there is a greater emphasis on learning and speaking Welsh from birth. Throughout this series of Baby Steps Into Welsh, expert of language acquisition, Dr Enlli Thomas from Bangor University, will be listening in and sharing her thoughts on what the contributors have to say, as well as answering questions from the listeners. If you have a question about Welsh language education or if you'd like to share your own experience with Enlli, email us on [email protected].
Y newyddiadurwraig a chyflywnydd Lucy Owen sy'n lansio ein ail gyfres o'r podlediad Baby Steps Into Welsh! Mewn sgwrs fywiog ac agored gyda'n cyflwynwraig Nia Parry, mae Lucy yn sgwrsio am ei phenderfyniad i anfon ei mab Gabs i'r Cylch Meithrin a'r ysgol gynradd Gymraeg leol, er gwaethaf y ffaith ei bod hi wedi methu mewn sawl ymdrech i ddysgu'r iaith fel oedolyn. Cawn glywed sut y gwnaeth cyfweliad gyda niwrowyddonydd ei pherswadio i anfon Gabs i ysgol uwchradd Gymraeg, a sut roedd Gabs mor benderfynnol o barhau ei addysg Gymraeg, er gwaethaf y ffaith bod yn rhaid codi'n gynt i ddal
y bws ysgol! Mae Lucy'n rhannu sut mae'r Gymraeg fel anrheg i blant a sut mae'n dyheu am gael ei magu heddiw, ble mae pwyslais ar ddysgu a siarad Cymraeg o'r crud. Trwy gydol y gyfres bydd yr arbenigwr iaith Dr Enlli Thomas o Brifysgol Bangor yn gwrando ac yn ymateb i safbwyntiau'r cyfrannwyr, ac hefyd yn ateb cwestiynnau sy'n cael eu hanfon gan ein gwrandawyr. Os oes ganddoch chi gwestiwn am addysg Gymraeg neu rhywbeth i'w rannu gyda Enlli am eich profiad chi, ebostiwch ni ar [email protected]. -
Wales’ new Health Minister, Baroness Eluned Morgan was the government minister in charge of the Welsh language from 2017 to 2021. A vicar's daughter born in a deprived area of Cardiff, and the only Welsh speaking family on the estate at the time. In an interview recorded before the election, she talks to Nia about how her mother started the local Cylch Meithrin - a Welsh language playgroup, and how she believes Cylch Meithrin is so important in getting to a million Welsh speakers by 2050. Bilingualism expert, Dr Sian Wyn Siencyn listens in and explains how speaking other languages improves a child's confidence and their social skills.
-
Will it hinder my child's learning if I don't speak Welsh? Will my child need to attend a Cylch Meithrin if I want them to go to Welsh-medium primary school? Dr Sian Wyn Siencyn is back to answer more of your questions about your child taking their own baby steps into Welsh.
-
How do children become bilingual? What is immersion and why is it effective? Over the next two episodes, our resident expert Dr Sian Wyn Siencyn answers your questions about Welsh-medium education and bringing your children up bilingually.
- Näytä enemmän