Episodes
-
Saesnes yw Judi a gafodd ei magu yn Lloegr. Cwrdd â Chymro di-Gymraeg a’i denodd hi i ymgartrefu yn Aberdâr. Wedi iddi ymddeol yn gynnar o’i swydd fel athrawes, penderfynodd ymuno â Chwrs Dwys, Prifysgol De Cymru er mwyn dysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae hi’n fam-gu ac yn defnyddio’r Gymraeg gyda’r wyrion ac yn gwirfoddoli gyda maes Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n aelod o gangen leol Merched y Wawr ac yn gwirfoddoli fel siaradwr rhugl ar gynllun partnera’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae ei brwdfryddedd a’i hangerdd dros y Gymraeg yn heintus.
-
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
CLIP 1
Beiriniaid: Judges
Ias: A shiver
Chwerw-felys: Bitter sweet
Diniwed: Innocent
Cynhyrchwyr: Producers
Clyweliadau: Auditions
Hyfforddwyr: Coaches
Ewch amdani: Go for it
Sylwadau: Comments
Y Bydysawd: The Universe
Cyfarwyddwr: Director
CLIP 2
Lleoliad: Location
Gwerthfawrogi: To appreciate
Heb os: Without doubt
Yn ei hawl ei hun: In its own right
Denu cynulleidfa: To attract an audience
Difreintiedig: Disadvantaged
Wedi elwa: Has profited
Yn sylweddol: Substantially
Fyddwn i’n dychmygu: I would imagine
Yn bellgyrhaeddol: Far reaching
Y tu hwnt i: Beyond
Achlysuron arbennig: Special occasions
CLIP 3
Yn achlysurol: Occasionally
Troedio yn ofalus: Treading carefully
I raddau: To an extent
Ymwybodol: Aware
Agweddau: Aspects
Rhagrith: Hypocrisy
Eithafiaeth: Extremism
Ar yr ymylon: On the fringes
Ffydd: Faith
CLIP 4
Cic o’r smotyn: Penalty
Ergyd: A shot
Y cwrt cosbi: Penalty area
Ysbrydoli: To inspire
Menywod: ffordd arall o ddweud Merched
CLIP 5
Cyd-destun: Context
Agweddau: Attitudes
Buddsoddiad: Investment
Cynnydd: Increase
Parhau i ddatblygu: Continuing to develop
Carfan: Squad
CLIP 6
Atgofion: Memories
Cerddoriaeth: Music
Cerrig milltir: Milestones
Tegan: Toy
CLIP 7
Bugeiliaid: Shepherds
Drama’r Geni: Nativity
Braint: A privilege
Y Ceidwad: The Saviour
Unig: Lonely
Mynyddig: Mountainous
Deuddeg can erw: 1200 acres
Terfynau: Boundaries
Eang: Extensive
Awydd: Desire
Er bore oes: Since childhood
CLIP 8
Agorawd: Overture
Gwisgoedd: Dresses
Cystadleuol tu hwnt: Extremely competitive
Heriol: Challenging
Cerddorfa: Orchestra
Ysgafnder: Lightness
Gwaith caib a rhaw: Spadeworker mai ‘pick and shovel’ ydy’ caib a rhaw’ fel arfer
Cynhyrchiad: Production
Uchafbwynt: Highlight
Hyblyg: Flexible
-
Episodes manquant?
-
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Kierion Lloyd.
Cafodd Kierion Lloyd ei eni yn Aberhonddu ond oherwydd gwaith y teulu treuliodd ei blentynod yn byw dramor. Dychwelodd i ardal Wrecsam yn ddeunaw oed. Wedi cyfnod yn teithio yn Seland Newydd, roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac i ailgydio yng ngwreiddiau’r teulu. Erbyn hyn, mae’n byw yn Rhosllanerchrugog. Mae ei hoffter a’i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn allweddol yn ei daith iaith.
-
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Tachwedd yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
-
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.
-
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
-
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.
Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.
-
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.
-
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1Trawsblaniad calon: Heart transplantCwpan y Byd: World CupY garfan: The squadBe mae o’n ei olygu: What does it mean
Clip 2Ymateb: ResponseCyflawn: CompleteRhyng Gol: Inter collegeDi-lol: No nonsenseYn y pen draw: In the endEnwogrwydd: FameRhyngwladol: InternationalCorwynt: HurricaneCyfweliadau: InterviewsMedra: I can
Clip 3Cyfryngau cymdeithasol: Social mediaDilynwyr: FollowersHyrwyddo: To promoteBob cwr: Every cornerYn gyfrifol am: Responsible forDylsen ni neu dylen ni: We shouldCenedl: NationYn ormodol: Excessively
Clip 4Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development OfficerDarganfod: To discoverAddas: AppropriateYmgeisiais i: I appliedGwobr: AwardDiolchgar: ThankfulEnwebu: To nominateYsbrydoli: To inspireYstyried: To considerTrochi: To immerseYn y bôn: Basically
Clip 5Cynefin: AbodeYn falch iawn: Very proudCyfathrebu: Communicating
Clip 6Dylanwad: InfluenceDegawd: DecadeCyfnod: PeriodCyfansoddi: To composeAlawon: TunesCyfrol: BookCyfarwydd: Familiar
Clip 7Enwebiadau: NominationsSylweddol: SubstantialYn fraint: An honourYn ychwanegol: Additionally toPlentyndod: ChildhoodCyswllt: ConnectionCelfyddydau: Arts
-
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 – Sian PhillipsCysylltiadau : ConnectionsDodi : To putAdrodd : To reciteAm wn i : I supposeY fraint : The honourGwrthod : To refuse
Clip 2 - Megan WilliamsAwgrymu : To suggestYr Unol Daleithiau : The United StatesYn gyffredinol : GenerallyCymuned : CommunityGolygydd : Editor
Clip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : IntroductionGradd : DegreeY fath beth : Such a thing
Clip 4 – Lili Mohammad Caeredin : EdinburghYsbrydoli : To inspireDatblygu : To developSioe gerdd : MusicalLlywodraeth : GovernmentRhyfel : WarDoniol : AmusingYsgafn : LightO ddifri : SeriousArwain y fyddin : Leading the army
Clip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’Mo’yn' : am ‘isio’Diwydiant : IndustryDiflannu : To disappearY cyfnod clo : The lockdown
Clip 6 - Andy BellCyfarwydd â : Familiar withTorf : CrowdDrwy gyfrwng : Through the mediumDarlledwr cyhoeddus : Public broadcasterCynghrair : LeagueCampau : SportsNeuadd mabolgampau : Sport hallsCorfforol : PhysicalAr y brig : On topDyfarnwyr a hyfforddwyr : Referees and coaches
Clip 7 – Pwyll ap Sion Cyfeirio at : To refer toCynhyrchu : To produceMor uchelgeisiol : So ambitiousCysyniad : ConceptOfferynnau : InstrumentsYn wirioneddol anhygoel : Really incredibleAthrylith : GeniusCydio : To take holdY tu hwnt i : Beyond
Clip 8 – Prif Stiward Deugain mlynedd : 40 yearsHaeddu mensh : Deserving a mention
-
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.
-
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.
-
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:
Clip 1Cneifio - ShearingCanolbwyntio - To concentrateBawd - ThumbCyfathrebu - To communicateYr wyddor - The alphabetYn rhyfeddol - Wonderful
Clip 2Cyn-bostfeistr - Former postmasterMi gaeth ei garcharu ar gam - He was wrongly imprisonedCyfrinachol - SecretEnw barddol - Bardic nameYn darlledu - BroadcastingY profiad a’r anrhydedd - The experience and the honourGwlychu - To get wet
Clip 3Penodiad - AppointmentSwydd Efrog - YorkshireBalch - ProudTraddodiad - TraditionCynghrair y Cenhedloedd - Nations LeagueHyfforddi - To coachAmddiffynnwr - DefenderCaerlŷr - LeicesterDatblygu - To developAmheuaeth - Suspicion
Clip 4O‘ch cwmpas chi - Around youCofleidio - To cuddleCadw cysylltiad - Keeping in touchAdnod - A verseAra deg - SlowRhaniad - A splitBellach - By nowCyfoedion - PeersAndros o greulon - Terribly cruel
Clip 5Wedi hen arfer - Well used toUnigryw - UniqueDyfeisiadau sain - Sound devicesCyn pen hir a hwyr - EventuallyLlwythi - LoadsTrychinebus - DisastrousHanner ei malu - Half brokenYn gyfangwbl - Completely
Clip 6Uchafbwynt - HighlightGwatsiad - To watchTrydanol - ElectricOcheniad anferthol o ryddhad - A huge sigh of relief
Clip 7Mam-gu - NainYr hewl neu heol - Y fforddDwlu ar - Yn hoff iawn oCymeriadau - CharactersTrwy gydol dy fywyd - All your lifeCymuned - CommunityYn iau - Younger
Clip 8Paratoi ei ieir - Preparing his hensCreaduriaid - CreaturesPadell - PanBrwnt - DirtyBarnu - To adjudicateGraen - ConditionGwedd - AppearanceDodwy - To lay an eggSbri - Fun
-
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.
-
Geirfa Ar Gyfer Y Bennod:
Clip 1 Cynadleddau: ConferencesAr ein cyfyl ni: Near to usCael ein rhyfeddu: Being amazedAr y cyd: Jointly Gwthio: To pushGweld ei eisiau e: Missing himDiolchgar: ThankfulDyletswydd: DutyGwerthfawr: ValuableHunanhyder: Self-confidence
Clip 2 Rhaid i chi faddau i mi: You must forgive meAr wahân: SeperatelyTrafferthion: ProblemsAntur: AdventureBwriad: IntentionDaearyddol: Geographical
Clip 3 Mam-gu: GrandmotherY bwrdd: The tableCwyno: ComplainSylweddoli: To realiseAtgof: A memoryDylanwad: InfluenceCerddorol: MusicalYn y pendraw: In the endMagwraeth: Upbringing
Clip 4 Arfogi: To armCyfuniad: CombinationCyfranwyr: ContributorsCyflwr: ConditionRhwydd: EasyYmateb: Response Cyfarwydd â: Familiar withLlwyth: LoadsYstrydebol: StereotypicalSa i’n siŵr: I’m not sure
Clip 5 Anrhydedd: HonourDiwylliant: CultureYmafael â: To graspAil-law: Second handArwydd o barch: A mark of respect
Clip 6 Rhagweld: To anticipateAwyrgylch: AtmosphereBwrlwm: BuzzCyfrannu: To contributeYmchwil: ResearchWedi amcangyfrif: Has estimatedDosraniad penodol: Specific apportionmentNwyddau swyddogol: Official productsDenu: To attract
Clip 7Cyfansoddwr: ComposerGwahanol rannau: Different partsChwibanu: WhistlingAeth y lle yn wenfflam: The place went wildEi holl adnoddau: All her ‘assets’Ymddangos: AppearingSyllu: StaringEiddo: PropertyTu draw i gydymdeimlad: Beyond sympathyTrysor: TreasureCymeradwyaeth: Applause
Clip 8 Tywynnu: ShiningCyfryngau cymdeithasol: Social mediaEisoes: AlreadyDilynwyr: Followers
-
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.
-
Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1Creais i - I createdPam est ti ati - Why you went about itCerddoriaeth - Music
Clip 2Hediadau - FlightsYmdopi - To copeBlinedig - TiringSeibiant - A restEffro - AwakeWrth y llyw - At the tillerNewid perchnogaeth - Change of ownershipDiwydiant - IndustryAdfer - To recover
Clip 3Profiadau -ExperiencesAntur - AdventureRhyngwladol - InternationalGwerthfawr tu hwnt - Extremely valuableAnhygoel - Incredible
Clip 4Rhydychen - OxfordRhyfedd - StrangePrif Weinidog - Prime MinisterDoniol - AmusingDwyrain Canol - Middle EastCyfreithiwr - Solicitor
Clip 5Chwerthin - To laughY cof cynta - The first memoryO waelod bol- From the bottom of the stomachGweladwy - VisualLlwyfan - Stage
Clip 6Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn’t be surprisedWedi eu dodrefnu - Fitted Rargian mawr - Goodness meCnau - NutsChwalu mhen i - Blew my mindFfasiwn beth - Such a thing
Clip 7Magu hyder - To build confidencePennod - Episode
Clip 8Cyfrifoldeb - ResponsibilityDangos parch - To show respectYsbrydoli - To inspireCroesawgar - WelcomingGwefreiddiol - ThrillingYn falch o fy hun - Proud of myselfDiwylliant - CultureLlenyddiaeth - Literature
-
‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
-
Ar Blât – Elinor Snowsill
Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?
Cyn-chwaraewr Former playerRysetiau RecipesAtgofion MemoriesGwrthod To refuseCytbwys BalancedAdnabyddus FamousWastad Always
Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus
Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc!Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi …Diffyg Lack ofCyflwr ConditionColuddyn BowelRheolaeth ControlStraen StressCroen SkinAr hap RandomlyAiladroddus RepetitiousCyfleusterau cyhoeddus Public conveniencesCymryd yn ganiataol Taking for granted
Bore Cothi – Menna Williams
Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol.Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen:Tlws TrophyCyfraniad sylweddol A substantial contributionBraint A privilegeDirprwy DeputyCyfeilio To accompany (on piano)Amyneddgar iawn Very patientLlenni CurtainsDeuawd DuetPan ddaru o Pan wnaeth eIenga IfancaAnrhydedd An honour
Beti a’i Phobol – Shelley Rees
A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio?Cyflwynydd PresenterSefyll yn llonydd Standing still Menywod MerchedArallgyfeirio DiversifyYmgyrchu To campaignEgni EnergyDrygionus NaughtyYn go glou Yn eitha cyflymMam-gu NainTaw Mai
Aled Hughes – Singapore
Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol.Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes:Pennaeth HeadRhyfedd StrangeRhyngwladol InternationalWedi ei leoli LocatedDiwylliannol CulturalHap a damwain Luck Denu To attractYmddiried To trustCystadleuol Competitive
Dros Ginio – Llyfrau
Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife?Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn:Clawr CoverCrynhoi cynnwys To summarise the contentCyfrolau BooksAdolygiadau ReviewYn ei chrynswth In its entiretyDrwgdybus SuspiciousYn hytrach na Rather thanBod dynol Human beingBygythiad ThreatAnnog To encourageAgor cil y drws To open the door slightly
-
1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.
Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:
Yn ddiweddar RecentlyLlongyfarchiadau Congratulations
2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.
Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?
Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama.
Trawiadol StrikingDifrifol SeriousCyfoes ModernCyfredol ContemporaryY felltith The curseDychmygol ImaginaryTrigolion cynhenid Indigenous residentsEstroniaid cefnog Rich outsidersRhwystro To prevent(G)oblygiadau ConsequencesGostwng yn ddifrifo Fallen sharply
3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51.
Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.
Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.
Hel achau To genealogizeY Brythoniaid The BritonsCanfod To findPlwyf ParishYmwybodol AwareRhyfedd StrangeDirprwy swyddog Deputy officerAwyrlu AirforceBe dach chi’n dda? What are you doing?Alla i ddychmygu can imagine
4 Aled Hughes – Hyd 2.00
Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl!
Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr.
Dathliad CelebrationUnigolion IndividualsTrwsio To repair
5 Bore Cothi – Hyd 2.26.
A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.
Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.
Gwerth chweil WorthwhileDychmygu To imagineGalwad A callArwr HeroMor ddiolchgar So thankfulLlewyrchus ProsperousYn hanfodol EssentialCraidd CoreEhangu To expandCynhyrchu To produceGo sylweddol Quite substantialOs na watsia i If I don’t look out
6 Dros Ginio – Hyd 2.30.
Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr.
Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:
Cyflwr ConditionDw i yn cyfadde I admitBlewyn A hairStraen StressYn raddol GraduallyYn ei gylch e About itYmddangos To appearAnsawdd TextureMenywod Merched Brau Brittle
- Montre plus