Episoder

  • Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.

  • Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

  • Mangler du episoder?

    Klikk her for å oppdatere manuelt.

  • Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.

    Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.

  • ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

  • Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

    Geirfa ar gyfer y bennod:-

    Clip 1Trawsblaniad calon: Heart transplantCwpan y Byd: World CupY garfan: The squadBe mae o’n ei olygu: What does it mean

    Clip 2Ymateb: ResponseCyflawn: CompleteRhyng Gol: Inter collegeDi-lol: No nonsenseYn y pen draw: In the endEnwogrwydd: FameRhyngwladol: InternationalCorwynt: HurricaneCyfweliadau: InterviewsMedra: I can

    Clip 3Cyfryngau cymdeithasol: Social mediaDilynwyr: FollowersHyrwyddo: To promoteBob cwr: Every cornerYn gyfrifol am: Responsible forDylsen ni neu dylen ni: We shouldCenedl: NationYn ormodol: Excessively

    Clip 4Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development OfficerDarganfod: To discoverAddas: AppropriateYmgeisiais i: I appliedGwobr: AwardDiolchgar: ThankfulEnwebu: To nominateYsbrydoli: To inspireYstyried: To considerTrochi: To immerseYn y bôn: Basically

    Clip 5Cynefin: AbodeYn falch iawn: Very proudCyfathrebu: Communicating

    Clip 6Dylanwad: InfluenceDegawd: DecadeCyfnod: PeriodCyfansoddi: To composeAlawon: TunesCyfrol: BookCyfarwydd: Familiar

    Clip 7Enwebiadau: NominationsSylweddol: SubstantialYn fraint: An honourYn ychwanegol: Additionally toPlentyndod: ChildhoodCyswllt: ConnectionCelfyddydau: Arts

  • Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

    Geirfa ar gyfer y bennod:-

    Clip 1 – Sian PhillipsCysylltiadau : ConnectionsDodi : To putAdrodd : To reciteAm wn i : I supposeY fraint : The honourGwrthod : To refuse

    Clip 2 - Megan WilliamsAwgrymu : To suggestYr Unol Daleithiau : The United StatesYn gyffredinol : GenerallyCymuned : CommunityGolygydd : Editor

    Clip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : IntroductionGradd : DegreeY fath beth : Such a thing

    Clip 4 – Lili Mohammad Caeredin : EdinburghYsbrydoli : To inspireDatblygu : To developSioe gerdd : MusicalLlywodraeth : GovernmentRhyfel : WarDoniol : AmusingYsgafn : LightO ddifri : SeriousArwain y fyddin : Leading the army

    Clip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’Mo’yn' : am ‘isio’Diwydiant : IndustryDiflannu : To disappearY cyfnod clo : The lockdown

    Clip 6 - Andy BellCyfarwydd â : Familiar withTorf : CrowdDrwy gyfrwng : Through the mediumDarlledwr cyhoeddus : Public broadcasterCynghrair : LeagueCampau : SportsNeuadd mabolgampau : Sport hallsCorfforol : PhysicalAr y brig : On topDyfarnwyr a hyfforddwyr : Referees and coaches

    Clip 7 – Pwyll ap Sion Cyfeirio at : To refer toCynhyrchu : To produceMor uchelgeisiol : So ambitiousCysyniad : ConceptOfferynnau : InstrumentsYn wirioneddol anhygoel : Really incredibleAthrylith : GeniusCydio : To take holdY tu hwnt i : Beyond

    Clip 8 – Prif Stiward Deugain mlynedd : 40 yearsHaeddu mensh : Deserving a mention

  • ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

  • ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

  • Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

    Geirfa ar gyfer y bennod:

    Clip 1Cneifio - ShearingCanolbwyntio - To concentrateBawd - ThumbCyfathrebu - To communicateYr wyddor - The alphabetYn rhyfeddol - Wonderful

    Clip 2Cyn-bostfeistr - Former postmasterMi gaeth ei garcharu ar gam - He was wrongly imprisonedCyfrinachol - SecretEnw barddol - Bardic nameYn darlledu - BroadcastingY profiad a’r anrhydedd - The experience and the honourGwlychu - To get wet

    Clip 3Penodiad - AppointmentSwydd Efrog - YorkshireBalch - ProudTraddodiad - TraditionCynghrair y Cenhedloedd - Nations LeagueHyfforddi - To coachAmddiffynnwr - DefenderCaerlŷr - LeicesterDatblygu - To developAmheuaeth - Suspicion

    Clip 4O‘ch cwmpas chi - Around youCofleidio - To cuddleCadw cysylltiad - Keeping in touchAdnod - A verseAra deg - SlowRhaniad - A splitBellach - By nowCyfoedion - PeersAndros o greulon - Terribly cruel

    Clip 5Wedi hen arfer - Well used toUnigryw - UniqueDyfeisiadau sain - Sound devicesCyn pen hir a hwyr - EventuallyLlwythi - LoadsTrychinebus - DisastrousHanner ei malu - Half brokenYn gyfangwbl - Completely

    Clip 6Uchafbwynt - HighlightGwatsiad - To watchTrydanol - ElectricOcheniad anferthol o ryddhad - A huge sigh of relief

    Clip 7Mam-gu - NainYr hewl neu heol - Y fforddDwlu ar - Yn hoff iawn oCymeriadau - CharactersTrwy gydol dy fywyd - All your lifeCymuned - CommunityYn iau - Younger

    Clip 8Paratoi ei ieir - Preparing his hensCreaduriaid - CreaturesPadell - PanBrwnt - DirtyBarnu - To adjudicateGraen - ConditionGwedd - AppearanceDodwy - To lay an eggSbri - Fun

  • ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

  • Geirfa Ar Gyfer Y Bennod:

    Clip 1 Cynadleddau: ConferencesAr ein cyfyl ni: Near to usCael ein rhyfeddu: Being amazedAr y cyd: Jointly Gwthio: To pushGweld ei eisiau e: Missing himDiolchgar: ThankfulDyletswydd: DutyGwerthfawr: ValuableHunanhyder: Self-confidence

    Clip 2 Rhaid i chi faddau i mi: You must forgive meAr wahân: SeperatelyTrafferthion: ProblemsAntur: AdventureBwriad: IntentionDaearyddol: Geographical

    Clip 3 Mam-gu: GrandmotherY bwrdd: The tableCwyno: ComplainSylweddoli: To realiseAtgof: A memoryDylanwad: InfluenceCerddorol: MusicalYn y pendraw: In the endMagwraeth: Upbringing

    Clip 4 Arfogi: To armCyfuniad: CombinationCyfranwyr: ContributorsCyflwr: ConditionRhwydd: EasyYmateb: Response Cyfarwydd â: Familiar withLlwyth: LoadsYstrydebol: StereotypicalSa i’n siŵr: I’m not sure

    Clip 5 Anrhydedd: HonourDiwylliant: CultureYmafael â: To graspAil-law: Second handArwydd o barch: A mark of respect

    Clip 6 Rhagweld: To anticipateAwyrgylch: AtmosphereBwrlwm: BuzzCyfrannu: To contributeYmchwil: ResearchWedi amcangyfrif: Has estimatedDosraniad penodol: Specific apportionmentNwyddau swyddogol: Official productsDenu: To attract

    Clip 7Cyfansoddwr: ComposerGwahanol rannau: Different partsChwibanu: WhistlingAeth y lle yn wenfflam: The place went wildEi holl adnoddau: All her ‘assets’Ymddangos: AppearingSyllu: StaringEiddo: PropertyTu draw i gydymdeimlad: Beyond sympathyTrysor: TreasureCymeradwyaeth: Applause

    Clip 8 Tywynnu: ShiningCyfryngau cymdeithasol: Social mediaEisoes: AlreadyDilynwyr: Followers

  • ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.

  • Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.

    Geirfa ar gyfer y bennod:-

    Clip 1Creais i - I createdPam est ti ati - Why you went about itCerddoriaeth - Music

    Clip 2Hediadau - FlightsYmdopi - To copeBlinedig - TiringSeibiant - A restEffro - AwakeWrth y llyw - At the tillerNewid perchnogaeth - Change of ownershipDiwydiant - IndustryAdfer - To recover

    Clip 3Profiadau -ExperiencesAntur - AdventureRhyngwladol - InternationalGwerthfawr tu hwnt - Extremely valuableAnhygoel - Incredible

    Clip 4Rhydychen - OxfordRhyfedd - StrangePrif Weinidog - Prime MinisterDoniol - AmusingDwyrain Canol - Middle EastCyfreithiwr - Solicitor

    Clip 5Chwerthin - To laughY cof cynta - The first memoryO waelod bol- From the bottom of the stomachGweladwy - VisualLlwyfan - Stage

    Clip 6Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn’t be surprisedWedi eu dodrefnu - Fitted Rargian mawr - Goodness meCnau - NutsChwalu mhen i - Blew my mindFfasiwn beth - Such a thing

    Clip 7Magu hyder - To build confidencePennod - Episode

    Clip 8Cyfrifoldeb - ResponsibilityDangos parch - To show respectYsbrydoli - To inspireCroesawgar - WelcomingGwefreiddiol - ThrillingYn falch o fy hun - Proud of myselfDiwylliant - CultureLlenyddiaeth - Literature

  • ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.

    Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

  • Ar Blât – Elinor Snowsill

    Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?

    Cyn-chwaraewr Former playerRysetiau RecipesAtgofion MemoriesGwrthod To refuseCytbwys BalancedAdnabyddus FamousWastad Always

    Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus

    Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc!Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi …Diffyg Lack ofCyflwr ConditionColuddyn BowelRheolaeth ControlStraen StressCroen SkinAr hap RandomlyAiladroddus RepetitiousCyfleusterau cyhoeddus Public conveniencesCymryd yn ganiataol Taking for granted

    Bore Cothi – Menna Williams

    Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol.Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen:Tlws TrophyCyfraniad sylweddol A substantial contributionBraint A privilegeDirprwy DeputyCyfeilio To accompany (on piano)Amyneddgar iawn Very patientLlenni CurtainsDeuawd DuetPan ddaru o Pan wnaeth eIenga IfancaAnrhydedd An honour

    Beti a’i Phobol – Shelley Rees

    A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni.Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio?Cyflwynydd PresenterSefyll yn llonydd Standing still Menywod MerchedArallgyfeirio DiversifyYmgyrchu To campaignEgni EnergyDrygionus NaughtyYn go glou Yn eitha cyflymMam-gu NainTaw Mai

    Aled Hughes – Singapore

    Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol.Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes:Pennaeth HeadRhyfedd StrangeRhyngwladol InternationalWedi ei leoli LocatedDiwylliannol CulturalHap a damwain Luck Denu To attractYmddiried To trustCystadleuol Competitive

    Dros Ginio – Llyfrau

    Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife?Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn:Clawr CoverCrynhoi cynnwys To summarise the contentCyfrolau BooksAdolygiadau ReviewYn ei chrynswth In its entiretyDrwgdybus SuspiciousYn hytrach na Rather thanBod dynol Human beingBygythiad ThreatAnnog To encourageAgor cil y drws To open the door slightly

  • 1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.

    Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:

    Yn ddiweddar RecentlyLlongyfarchiadau Congratulations

    2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.

    Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?

    Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama.

    Trawiadol StrikingDifrifol SeriousCyfoes ModernCyfredol ContemporaryY felltith The curseDychmygol ImaginaryTrigolion cynhenid Indigenous residentsEstroniaid cefnog Rich outsidersRhwystro To prevent(G)oblygiadau ConsequencesGostwng yn ddifrifo Fallen sharply

    3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51.

    Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.

    Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.

    Hel achau To genealogizeY Brythoniaid The BritonsCanfod To findPlwyf ParishYmwybodol AwareRhyfedd StrangeDirprwy swyddog Deputy officerAwyrlu AirforceBe dach chi’n dda? What are you doing?Alla i ddychmygu can imagine

    4 Aled Hughes – Hyd 2.00

    Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl!

    Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr.

    Dathliad CelebrationUnigolion IndividualsTrwsio To repair

    5 Bore Cothi – Hyd 2.26.

    A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.

    Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.

    Gwerth chweil WorthwhileDychmygu To imagineGalwad A callArwr HeroMor ddiolchgar So thankfulLlewyrchus ProsperousYn hanfodol EssentialCraidd CoreEhangu To expandCynhyrchu To produceGo sylweddol Quite substantialOs na watsia i If I don’t look out

    6 Dros Ginio – Hyd 2.30.

    Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr.

    Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:

    Cyflwr ConditionDw i yn cyfadde I admitBlewyn A hairStraen StressYn raddol GraduallyYn ei gylch e About itYmddangos To appearAnsawdd TextureMenywod Merched Brau Brittle

  • Pigion y Dysgwyr – Francesca

    Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon!Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil...

    (Y)stumiau Gestures

    Ymchwil Research

    Ystrydebol Cliched

    Ymwybodol Aware

    Sylwi To notice

    Hunaniaeth Identity

    Am wn i I suppose

    Mynegi To express

    Lleisiau Voices

    Barn An opinion

    Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes

    Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed?

    Llonydd Still

    Diflas Boring

    Milwrol Military

    Agweddau Aspects

    Yn ddiweddar Recently

    Pori To browse

    Taro To strike

    Cymhleth Complicated

    Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit

    Ysgolheictod Scholarship

    Astrus Obscure

    Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw

    Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi.Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau. Moethus Luxurious

    Cyflwynydd Presenter

    Darganfod To discover

    Anhygoel Incredible

    Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd

    Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel!Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth... Rhyngwladol International

    Suddo To sink

    Alla i ddychmygu I can imagine

    Profiadau Experiences

    Canlyniad Result

    Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio

    A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife!Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...

    Buddugoliaeth Win

    Cyfieithydd Translator

    Peryglus Dangerous

    Ffon Stick

    Pigion y Dysgwyr – RNLI

    Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e? Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI..

    Dau ganmlwyddiant Bicentenary

    Bad achub Lifeboat

    Ymuno â To join

    Rhiant Parent

    Mewn cysylltiad â In contract with

    Hyfforddiant Training

  • Pigion y Dysgwyr - RosalieCaryl 020224

    Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel War

    Atgofion Memories

    Mynyddog Mountainous

    Anferth Huge

    Bobol annwyl Goodness me

    Llong Ship

    Grawnwin Grapes

    Pigion y Dysgwyr – Magnets OergellAled Hughes 030424

    Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed.Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi...

    Traddodiad Tradition

    Celf Art

    Llawn bwrlwm Buzzing

    Cynnyrch lleol Local produce

    Pwytho â llaw Handstitched

    Pren Wood

    Cysylltiad Connection

    Atyniad Attraction

    Pigion y Dysgwyr – Clare MackintoshDros Ginio 02.04.24

    Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw’r holl fagnetau na?Mae’r awdures Clare Mackintosh, sy’n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni’n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i’r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…

    Ffuglen a throsedd Fiction and crime

    Diweddara Most recent

    Galar Grief

    Dynes Menyw

    Cennin Pedr Daffodils

    Amser maith yn ôl A long time ago

    Yn union Exactly

    Pigion y Dysgwyr – Cerys HafanaBeti a’i Phobol 070404

    A dw i’n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos.Tair perfformwraig sydd i’w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda’r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a’i Phobol ddydd Sul,Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi’n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu’r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi’n sôn am hanes ei theulu….

    Cysur Comfort

    Telynores Harpist

    Arddull Style

    Chwarelwyr Quarrymen

    Dychwelyd To return

    Cwympo To fall

    Pigion y Dysgwyr – Golden OldiesBore Cothi 020404

    Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a’r haf – cerwch i’w gweld os cewch chi gyfle, mae’n delynores arbennig iawn.Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy’n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...

    Hamddenol LeisurelyProfiad ExperienceLlwyfannau StagesNefoedd annwyl Good Heavens

    Pigion y Dysgwyr – Connie OrffCaryl 030204

    Wel pob lwc i’r Golden Oldies on’d ife? Mae’n swnio’n brosiect diddorol a hwyliog iawn.Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy’n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau Influences

    Uniaethu fel To identify as

    Ffraeth Witty

    Israddol Inferior

    Caniatáu To permit

  • Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produce

    Ar y cyd Together

    Hybu To promote

    Maeth Nutrition

    Troellwr Spinner

    Atgofion Memories

    Agwedd Aspect

    Lles Welfare

    Manteisio ar To take advantage of

    Addas Suitable

    Pigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on’d ife?Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop

    Y Parchedicaf The Most Reverand

    Atgof memory

    Pam lai? Why not?

    Olrhain To trace

    Pigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ’r Archesgob yn fanna ar Beti a’i Phobol.Ond sôn am ddathliadau’r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi’n sôn am draddodiadau’r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma’r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia’n dathlu… Traddodiadau Traditions

    Gweinidog Minister

    Amrywio To vary

    Y Grawys Lent

    Ymprydio To fast

    Dipyn o her Quite a challenge

    Gwylnos A vigil

    Y wawr Dawn

    Mae’n ymddangos i mi It appears to me

    Pigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna’n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia.Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a’i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau’r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a’r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main characters

    Cyffiniau Vicinity

    Ymchwil manwl iawn Very detailed research

    Ymwybodol Aware

    Awyddus iawn Very keen

    Cyfweliad Interview

    Fatha Fel

    Plentyndod Childhood

    Profiad Experience

    Pigion y Dysgwyr – Piano

    Ac os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i’n siŵr basech chi’n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi.Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu’r hyn neu’r llall on’d oes yna? Ond oeddech chi’n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i’w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi’r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae’r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…

    Offeryn Instrument

    Cyflawni To achieve

    Anwybyddu To ignore

    Cymryd yn ganiataol Taking for granted

    Cerddorfa Orchestra

    Cyfeilyddion Accompanists

    Hyblyg Flexible

    Y deunawfed ganrif 18th century

    Esblygu To evolve

    Pigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i’r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir.

    Yr Wyddgrug Mold

    Llwyfan Stage

    O ddifri(f) Seriously

    Tanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam

    Argraff enfawr A huge impression

    Diwylliant Culture

    Ailgysylltu To reconnect

    Parch Respect

  • Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr Saddler

    Cymwysterau Qualifications

    Ffodus Lwcus

    Creadigol Creative

    Ail-greu To recreate

    Lledr Leather

    Cyfrwy Saddle

    Ar waith In the pipeline

    Amrywiaeth Variety

    Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi?Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public Health

    Cydweithiwr Co-worker

    Sylwi To notice

    Heb os nac oni bai Without doubt

    Brwdfrydedd Enthusiasm

    Y cyfnod clo The lockdown

    Degawd Decade

    Ymdrech Effort

    Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna’n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl.Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae’r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma’r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni’n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch Campaign

    Ymwybodol Aware

    Goleuni Light

    Glynu To stick

    Galluogi To enable

    Heulwen liw nos Evening sun

    Ennyn cefnogaeth To elicit support

    Mesur A Bill

    Deddf Statute

    Cynhyrchu arfau Arms manufacturing

    Ar fyrder In haste

    Pigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi’r clociau yna ymlaen cyn mynd i’r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi’n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on’d oedd hi?Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House’ sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100’.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan Westminster

    Braint Privilege

    Cydnabod Acknowledge

    Dylanwadu To influence

    Yn eu plith nhw Amongst them

    Pleidiau gwleidyddol Political parties

    Awch Eagerness

    Ysgogiad Motivation

    Rhagflaenydd Predecessor

    Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on’d ife?Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e’n dod o Sir Benfro a dyma fe’n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible for

    Lles Welfare

    Trwyddedau Licenses

    Yn feunyddiol Daily

    Carcharor Prisoner

    Gwendidau Weaknesses

    Lleithio Becoming damp

    Pallu Methu

    Bygwth gwae Threatening

    Llyw Steering wheel

    Pigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i’n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre.Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth Inspiration

    Denu dy sylw di Drew your attention

    Pice ar y maen Welsh cakes

    Cas-gwent Chepstow

    Cynhwysion Ingredients

    Llwyfannau cymdeithasol Social media

    Ryseitiau pobi Baking recipes

    Cacen glou A quick cake